An outlet for players whose creativity extends beyond the board. Post your original works here!
The posting of song lyrics is not the purpose of this board and as such please refrain from doing so. Exceptions can be made to this rule if you are the copyrighted owner of the lyrics and the lyrics are not found offensive by the majority of the population. This board is a place to post your original works of poetry and prose and also a place for discussion of poetry and related areas.
We have received word from Fencer that other's poetry can be posted to this board. These are the two conditions: 1) When someone posts a known copyrighted poem, he must add the author's name as well 2) If the author is not known, the poem can be posted without problems
The Irish song, 'A Nation Once Again' by Thomas Osbourne Davis was the inspiration for the following:
Yn fachgen brwd a ’ngwaed ar dân,
Darllenais hanes cywrain
Tri chant a thri o arwyr glân
Fu’n gwarchod Groeg a Rhufain;
Ac yna rhoddais weddi daer
Cawn eto weld y dydd
Y chwalem furiau’r estron gaer
A dod yn Gymru rydd.
Daw Cymru’n Gymru Rydd
Daw Cymru’n Gymru Rydd
’Rôl byw yn hir dan estron gaer
Daw Cymru’n Gymru Rydd
Mor ddisglair drwy’r holl ddyddiau blin
Fu’r gobaith pell am ryddid,
Na allai serch a’i decaf rhin
Ragori ar ei lendid;
Fy ngwylio wnâi mewn llys a llan
Ac yn y maes liw dydd,
Pan gysgwn, canai ’gylch y fan ’
Daw Cymru’n Gymru rydd!
Ond nod aruchel, sanctaidd, hardd
Yw gwasanaethu rhyddid;
A gallai nwyd o isel radd
Amharu ar ei lendid;
Daw rhyddid o ddeheulaw Duw
A’i sail a’ sêl yw’r ffydd,
Drwy Gymry da caiff Cymru fyw
A dod yn Gymru rydd.
Fy unig sêl wrth ddod i oed
Oedd brwydro dros ei rhyddid,
A meithrin ysbryd, yn ddioed
Sy’n rhydd o bob aflendid;
Drwy fyw’n lân gobeithio’n wir
Caf godi ’ngwlad ryw dydd -
Nid ofer dweud, rôl caethglud hir
Bydd Cymru’n Gymru rydd!